'Mae Meddygfa Hafan Iechyd wrth ei bodd o fod wedi cofrestru ar gyfer Fframwaith a Chynllun Gwobrau Gofal Sylfaenol Gwyrddach Cymru ac rydym yn cymeryd camau gweithredol i leihau ein hôl traed carbon. Mae'r argyfwng hinsawdd hefyd yn argyfwng iechyd. Felly, ein nod yw gwella iechyd ein cleifion a chynnig dewisiadau cynaliadwy yn y ffordd rydym yn gweithredu a'r gwasanaethau a gynigiwn i'n cleifion. Bydd hyn yn darparu manteision i'r GIG, eich iechyd ac ôl traed carbon gofal iechyd.
Newid yn amser agor y ffisigfa yn Hafan Iechyd
O dydd Llun 7ed o Orffennaf 2025, mi fydd oriau agor newydd:
Llun: 8.30 y bore - 5 yr hwyr
Mawrth: 8.30 y bore - 5 yr hwyr
Mercher: 8.30 y bore - 5 yr hwyr
Iau: 8.30 y bore - 5 yr hwyr
Gwener: 8.30 y bore - 5 yr hwyr
*** Wedi cau am ginio bob dydd 12.30-1 y prynhawn