Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth Preifatrwydd

Sut mae Practisiau yn trin eich gwybodaeth


Diben darparu’r wybodaeth preifatrwydd hon

Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch chi, ac eraill weithiau, yn darparu gwybodaeth bersonol i ni.  Mae'n nodi pa wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi a pham rydyn ni'n ei chasglu, sut y gellir defnyddio'r wybodaeth, gyda phwy y gellir ei rhannu a sut y byddwn ni'n ei gwarchod a'i chadw'n gyfrinachol.

Mae'r hysbysiad yn egluro pa hawliau sydd gennych i reoli sut rydym yn defnyddio'ch gwybodaeth, ein sail gyfreithiol dros ei phrosesu a sut y gallwch gael gafael arni. Rydym hefyd yn esbonio gyda phwy i gysylltu os oes gennych unrhyw gwestiynau a sut i gysylltu â nhw.

Hafan Iechyd yw’r Rheolydd Data ar gyfer yr wybodaeth bersonol yr ydym yn ei phrosesu, oni nodir yn wahanol. Gallwch gysylltu â’r Practis mewn nifer o ffyrdd, gan gynnwys dros y ffôn, e-bost a phost. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion ar ein tudalen we Manylion y Practis.

Cwynion

Os oes gennych bryderon neu ymholiadau am sut rydym yn prosesu eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â’r Practis yn uniongyrchol neu ein Swyddog Diogelu Data yn y lle cyntaf.

Arweinydd Llywodraethu Gwybodaeth y Practis

Bethan Jones, Rheolwr Practis, Hafan Iechyd, Caernarfon

Swyddog Diogelu Data

O dan ddeddfwriaeth Diogelu Data y DU, mae’n ofynnol i’r Practis benodi Swyddog Diogelu Data. Mae’r rôl hon yn hanfodol ar gyfer hwyluso atebolrwydd y Practis a'i gydymffurfiad â gofynion diogelu data.

Swyddog Diogelu Data’r Practis yw:

DHCW DPO Service. DPO Support Service; Digital Health and Care Wales (DHCW).  Rhif cyswllt 02920 500500

 

Share: