Neidio i'r prif gynnwy

Presgripsiynau

 

 

Presgripsiynau Newydd neu Acíwt

Ar gael drwy gais, yn amodol trwy adolygaeth meddygol gan y Meddyg.  Archebwch ei prescripsiwn o leia 72 awr ymlaen llawr(diwrnodau gwaith).  Os ydych yn byw mwy na 1 milltir o Fferyllfa mi allwn dosbarthu eich meddyginiaeth o'r feddygfa ar ol 72 awr o dderbyn eich archeb. 

Dylai ceisiadau am bresgripsiynau gan glinigau (GIG neu Breifat) gael eu cyflwyno’n ysgrifenedig i'r feddygfa gan y meddyg ymgynghorol neu’r arbenigwr. Mae angen wythnos waith i'w prosesu er mwyn i'r meddyg teulu eu cymeradwyo.

Ar gyfer unrhyw gais brys, dylai'r arbenigwr roi o leiaf 7 diwrnod o feddyginiaeth i chi fel y cytunwyd gan Gymdeithas Feddygol Prydain (BMA).

 

Mae gan eich meddyg teulu hawl i wrthod rhagnodi eitem neu ragnodi dewis arall os credir ei bod yn amhriodol am unrhyw reswm megis y gost i'r GIG, os nad yw'n addas oherwydd meddyginiaeth arall neu os na ystyrir ei bod yn addas i'w rhagnodi gan y meddyg teulu.

 

Bydd angen i feddyg teulu gymeradwyo ceisiadau am feddyginiaeth sydd heb ei nodi ar eich presgripsiwn rheolaidd (ond rydych wedi'i dderbyn yn y gorffennol) a bydd yn cymryd 72 awr i'w brosesu. Bydd unrhyw gais brys yn cael ei drosglwyddo i'r meddyg teulu sydd ar alwad ar y diwrnod dan sylw i'w ystyried a'i gymeradwyo.

 

 

 

Dros y Ffôn

Nid ydym yn derbyn ceisiadau am meddyginiaeth dros y ffon oherwydd rhesymau diogelwch a canllawiau gan y bwrdd iechyd.

 

Mae bosib ffonio y dispensari yn uniongyrchol ar 01286 684120 10-12.30 a 3-5.00 y pnawn dydd Llun i Gwener.

Mewn Person

Mi allwch adael ei cais am meddyginiaeth yn un or ddau blychod postio sydd wrth y fynedfa i Hafan Iechyd.  Mae yna blwch du ar y wall tua allan i'r mynedfa ar gael 24ain 7 diwrnod yr wythnos.  Mae yna blwch coch tu mewn i'r mynedfa hefyd.

Trwy’r Post

Gyrrwch eich cais ir Dispensari, Hafan Iechyd, Doc Fictoria, Caernarfon, Gwynedd LL55 1TH .  Os da chi angen ni i postio y prescpsiwn(copi papur) yn ol i mchi mi fydd angen amlen hunangyfeiriedig.

Ar-lein

Mae bosib rhoi cais ar lein trwy defnyddio App GIG Cymru

 

CASGLU EICH PRESCRIPSIWN

Mae y dispensary ar agor 8.30 y bora tan 12.30 a 1 y pnawn tan 5.00 LLun i Gwenar. 

 

Mae bosib ffonio y dispensari ar 01286684120 10-12.30 a 3-5.00 y pnawn dydd Llun i Gwener.

 

Share: